Lindsay Hawker
Mae llys yn Japan wedi dedfrydu dyn i oes yn y carchar ar ôl iddo dreisio a llofruddio’r athrawes o Brydain, Lindsay Hawker.

Dedfrydwyd Tatsuya Ichihashi gan Lys ardal Chiba i oes dan glo am lofruddio Lindsay Hawker, 22 oed, yn ei fflat yn 2007.

Er gwaethaf ymdrech byd-eang gan yr heddlu i chwilio am y llofrudd, llwyddodd Tatsuya Ichihashi osgoi’r Heddlu am ddwy flynedd a hanner cyn cael ei ddal.

Cafodd corff Lindsay Hawker ei ddarganfod mewn bath wedi’i lenwi â baw ar falconi fflat Tatsuya Ichihashi tu allan i Tokyo.

Ar ôl ei arestio yn 2009, ysgrifennodd Tatsuya Ichihashi llyfr am ei gyfnod yn dianc oddi wrth yr Heddlu ac yn sôn am y llawdriniaeth gosmetig a gafodd i newid ei wedd.

Mae’r achos wedi dod yn un o achosion llofruddiaeth enwocaf Japan erioed.

Dywedodd Tatsuya Ichihashi wrth y Llys ar ddechrau’r achos ar 4 Gorffennaf ei fod wedi denu Lindsay Hawker, oedd yn athrawes Saesneg, i’w ystafell.

Wedi ei chael i’w ystafell, dywedodd ei fod wedi ei threisio ac yna wedi ei thagu oherwydd ei fod yn pryderu y byddai cymdogion yn clywed ei sgrechian ac yn galw’r heddlu.

Cyfaddefodd Tatsuya Ichihashi i achos ei marwolaeth, ond dywedodd nad oedd wedi cynllunio i lofruddio Lindsay Hawker ac nad oedd yn cofio pryd y bu iddo ei thagu.

Roedd rhieni Lindsay Hawker wedi hedfan i Japan ar gyfer yr achos llys, a dywedodd ei thad ei fod yn gobeithio y byddai Tatsuya Ichihashi yn cael y gosb eithaf o farw trwy gael ei grogi.