Mae criw cloddio wedi dod o hyd i benglog ar waelod Pearl Harbor, a’r gred yw ei fod yn perthyn i beilot o Japan a fu farw yn ystod yr ymosodiad hanesyddol yn 1941.

Mae ymchwilwyr eisoes wedi cadarnhau nad brodor o Hawaii biau’r penglog, ac mae archeolegwyr yn weddol sicr mai penglog peilot o Japan yw’r penglog.

Mae’r penglog yn dal yn gyfan er ei fod wedi ei gloddio o’r dyfnderoedd trwy ddefnyddio craeniau anferth a rhawiau.

Wrth gloddio, daethpwyd o hyd i ffyrc, sgrapiau metel a botel Coca-Cola o’r 1940au gerllaw’r penglog.

Cafodd 55 o beilotiaid o Japan eu lladd pan saethwyd 29 o’u hawyrennau i lawr yn ystod ymosodiad 7 Rhagfyr 1941. Lladdwyd 2,400 o filwyr yr Unol Dalaethau yn yr un ymosodiad.

Does dim olion o’r milwyr o Japan wedi eu darganfod yn Pearl Harbor ers yr Ail Ryfel Byd.

Mae cyrff dros 900 o filwyr o’r Unol Daleithaiu yn dal ar fwrdd y llong USS Arizona a suddodd yn ystod yr ymosodiad.

Wedi gobeithio ‘cadw’n dawel’

Darganfuwyd y penglog ar 1 Ebrill eleni, ond penderfynodd y Naval Facilities Engineering Command Pacific eu bod nhw am gadw’n dawel am y peth nes cael mwy o wybodaeth ynglŷn â tharddiad y penglog.

Mae’r Joint POW/MIA Accounting Command ar ynys Oahu, sydd â’r cyfrifoldeb o adnabod Americanwyr sydd wedi eu lladd tra ar faes y gad ond na chafodd eu dychwelyd adre, wedi cael y dasg o ddarganfod pwy oedd yn berchen ar y penglog.

Bydd y gwaith ymchwil yn cynnwys ystyried cofnodion deintyddol a DNA, meddai John Byrd, cyfarwyddwr y labordy ac anthropolegydd fforensig.

“Rydyn ni’n gweithio ar yr achos nawr, ond dim ond mewn cyfnod cynnar o ymchwilio ydyn ni ar hyn o bryd,” meddai. “Fyddwn ni ddim yn gwybod llawer am amser eto.”