Atlantis
Mae llong ofod yr Atlantis wedi glanio yn ôl ar y ddaear am y tro olaf, gan ddod a chyfnod 30 mlynedd gwenoliaid gofod Nasa i ben.

Glaniodd y wennol yn Cape Canaveral ychydig cyn iddi wawrio yn Florida (tua 11am yng Nghymru).

Roedd y tywydd yn berffaith a llwyddodd y criw i lanio’r wennol heb unrhyw ffwdan. Roedd tyrfa anferth wedi ymgasglu er mwyn gwylio’r foment hanesyddol.

Dechreuodd yr Atlantis ar ei thaith olaf i’r gofod ar 8 Gorffennaf, gyda’r dasg o gario bwyd a deunydd arall i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol.

Parodd y daith 12 diwrnod, 18 awr, 28 munud a 50 eiliad, rhwng lansio’r wennol, a’r eiliad y stopiodd yr olwynion ar lain glanio Cape Canaveral am y tro olaf.

Bydd gwennol ofod yr Atlantis, sydd ymhlith yr ifancaf o holl wenoliaid gofod Nasa, yn ei chadw yng Nghanolfan Ofod Kennedy yn Florida.

Bydd teithiau nesaf Nasa yn canolbwyntio ar lanio ar asteroids, ac yna ar y blaned Mawrth. Bydd cwmnïau preifat yn cymryd y cyfrifoldeb am deithiau i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol.