Un o ystafelloedd cyfarfod y Comisiwn Ewropeaidd
Mae arweinwyr Ewrop wedi cael rhybudd bod rhaid iddyn nhw “wneud popeth sydd ei angen” i arbed yr Ewro rhag perygl.
Ar drothwy cyfarfod o arweinwyr y gwledydd sy’n defnyddio’r arian Ewropeaidd, fe ddywedodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd bod angen gweithredu rhag i broblemau Gwlad Groeg ledu i wledydd eraill.
“Ddylai neb gymryd eu twyllo, mae’r sefyllfa’n ddifrifol iawn,” meddai Jose Manuel Barroso. “Mae angen ymateb, neu fe fydd yr haint yn lledu i bob cornel o Ewrop a thu hwnt.”
Pryder y Llywydd oedd y byddai hapfasnachwyr yn cymryd matnais o wendid yr Ewro ac y byddai yna fygythiad i economïau fel Portiwgal, Iwerddon a hyd yn oed yr Eidal.
Yr Almaen yn amheus
Fe gafodd y cyfarfod fory ei alw ar gais Ffrainc, er bod economi mwya’ Ewrop, Yr Almaen, yn amheus iawn ohono.
Yn ôl yr Almaenwyr, fe fyddai cyfarfod arall heb benderfyniad cadarn ar y diwedd yn gwneud mwy o ddrwg nag o les.
Mae Prif Weinidog Iwerddon hefyd wedi galw am weithredu cadarn er mwyn adfer hyder yn yr Ewro ac mae Ffrainc o blaid rhoi ail becyn achub i Wlad Groeg i’w helpu i gynnal ei dyledion.