Senedd-dy Arizona
Mae talaith yn Unol Daleithiau America wedi dechrau codi arian er mwyn adeiladu ffens newydd i atal mewnfudwyr o Mecsico.

Er mwyn talu am y prosiect, mae awdurdodau Arizona wedi lansio gwefan lle gall pobol gyfrannu’n ariannol.

Aeth y wefan, buildtheborderfence.com, yn fyw y bore yma – ar ddiwrnod pan fydd llawer o gyfreithiau newydd y dalaith yn dod i rym.

Yn ôl un o seneddwyr dalaith, Steve Smith, sydd wedi noddi’r ddeddf i ganiatau’r ffens, yr amcan yw codi o leia’ $50 miliwn drwy’r wefan.

Ond mae’r Democratiaid wedi beirniadu’r cynllun, gan ddweud mai dyma’r ffordd anghywir i ddatrys y broblem o ddiogelu’r ffin a thaclo materion mewnfudo.

Mae Steve Smith, a Gweriniaethwyr eraill, yn dweud nad yw’r Llywodraeth yn Washington wedi gwneud digon i ddiogeli’r ffin hyd yn hyn, a bod mewnfudwyr anghyfreithlon, smyglwyr cyffuriau a therfysgwyr yn dal i achosi problemau i’r dalaith.