Apel yr elusennau
Mae disgwyl i’r Cenhedloedd Unedig ddatgan yn swyddogol bod newyn difrifol mewn rhai rhannau o dde Somalia.

Yn ôl asiantaeth newyddion Reuters, fe fydd Mark Bowden, cydlynydd dyngarol Somalia, yn gwneud y datganiad heddiw yn Nairobi yn Kenya ar ôl gweld gwybodaeth gan arbenigwyr y CU.

Eisoes, roedd y Cenhedloedd Unedig wedi dweud bod y sychder yn Nwyrain Affrica yn argyfwng – term sydd un lefel yn is na newyn.

Maen nhw hefyd yn dweud bod diffyg maeth yn broblem ddifrifol ymhlith plant yn Somalia sydd mewn gwersylloedd plant yn Kenya ac Ethiopia.

Un o bob tri phlentyn yn diodde’

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae 2.85  miliwn o bobol angen cymorth yn Somalia, lle mae un o bob tri phlentyn yn dioddef o ddiffyg maeth.

Yn ôl mudiadau dyngarol, mae 10 miliwn o bobol mewn peryg trwy’r rhanbarth i gyd ac mae’r Pwyllgor Trychinebau, sy’n cyfuno nifer o’r elusennau, wedi lansio apel arbennig.

Mae un ym mhob deg o blant mewn rhai rhannau o  Somalia yn wynebu peryg o newynu i farwolaeth, meddai Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch yr wythnos ddiwethaf.