Alpha Conde
Mae arlywydd Guinea wedi llwyddo i oroesi ymgais i’w lofruddio.

Ymosododd gŵyr arfog ar ei gartref yn oriau mân y bore ‘ma.

Mae’r ymosodiad wedi taflu cysgod dros lwyddiant y sefydliad democrataidd ifanc mewn gwlad sydd â hanes o reolaeth filwrol a sawl coup yn erbyn y llywodraeth.

Yn dilyn y digwyddiad y bore ’ma, bu’r Arlywydd Alpha Conde yn cyfarch y wlad ar radio’r wladwriaeth, gan ddweud bod ei warchodwr wedi “ymladd yn arwrol am 3.10am” pan ymosodwyd ar ei gartref gan ddynion anhysbys.

Cafodd o leia’ un o’i warchodlu eu lladd, a chafodd nifer eu hanafu, mewn cyrch a ddinistriodd rhannau o’i gartref.

Mae’r Arlywydd Conde, a etholwyd saith mis ar ôl etholiad agored cyntaf y wlad, wedi galw ar bobol Guinea i gadw’r heddwch a pheidio ceisio dial am yr ymosodiad.

“Gall ein gelynion drio popeth,” meddai, “ond fydd dim atal gorymdaith pobol Guinea.”

Mae llefarydd ar ran yr arlywydd wedi dweud ei fod yn iawn, ond ei fod yn cael ei warchod mewn lleoliad cudd ar hyd o bryd.

Mae ymchwiliad nawr ar waith er mwyn darganfod pwy oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Gwrthdaro cyson Guinea

Cafodd yr Arlywydd Conde ei ethol yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd yn etholiad democrataidd agored cyntaf y wlad, hanner can mlynedd wedi iddi ennill ei hannibyniaeth oddi wrth Ffrainc.

Er i Alpha Conde ennill, dechreuodd gwrthdystio mawr yn y brif ddinas wrth i’w gefnogwyr ef, y Malinke, wrthdaro â chefnogwyr ei wrthwynebydd, o’r Peul.

Mae rhwystredigaeth ei wrthwynebwyr wedi tyfu’n ddiweddar wrth i’r arlywydd fethu â sicrhau llywodraeth fwy cynhwysol – gan benodi pob gweinidog o’i grŵp ethnig Malinke ei hun.

Mae tlodi mawr y wlad hefyd yn gwasgu ar ddinasyddion, ac i wneud y sefyllfa’n waeth, mae ei berthynas â’r fyddin – sydd wedi bod yn gyfrifol am bob un coup arlywyddol, gan gynnwys yr un diweddaraf yn 2008 – yn dechrau teimlo straen ei arlywyddiaeth.