Mae milwyr o lynges Israel wedi cymryd rheolaeth dros long o Ffrainc oedd yn ceisio torri’r gwarchae ar Lain Gaza.

Yn ôl adroddiadau o Israel, ni wnaed yr un ymdrech i wrthwynebu milwyr Israel wrth iddyn nhw feddiannu’r llong, oedd mewn moroedd rhyngwladol ar y pryd.

Aeth y llynges at y llong ar ôl i’r ymgrychwyr dros Balestina wrthod gorchmynion i newid cyfeiriad.
Mae Israel eisoes wedi rhybuddio y byddan nhw’n atal unrhyw ymgais i dorri’r gwarchae môr ar Gaza, sydd wedi bod mewn grym ers pedair blynedd, mewn ymgais, yn ôl Israel, i atal smyglo arfau i reolwyr milwriaethus Gaza, yr Hamas.

Y disgwyl nawr yw y bydd y llong, y Dignity al-Karama, yn cael ei harwain i borthladd yn ne Israel, ac mae’r teithwyr yn debygol o gael eu hanfon adref.

Y Dignity al-Karama oedd yr unig llong ar ôl o forlu llawer mwy oedd yn gobeithio hwylio wythnosau yn ôl, ond cafodd y gweddill eu hatal gan awdurdodau Groeg.

Mewn neges destun a anfonwyd at newyddiadurwyr, dywedodd llywodraeth Hamas yn Gaza eu bod yn condemnio Israel am atal y llong.

Roedd 16 o bobol ar y llong Ffrengig, yn cynnwys ymgyrchwyr dros Balestina o Ffrainc, Canada a Sweden, newyddiadurwyr, a thri aelod o griw’r llong. Yn ôl rheiny sydd ar fwrdd y llong, does ganddyn nhw ddim nwyddau cymorth ar y llong, ond eu bod yn ceisio gwneud “pwynt gwleidyddol” yn erbyn gwarchae Israel.

Dywedodd llefarydd ar ran grŵp o’r enw “Llong Ffrengig i Gaza” ei fod wedi bod mewn cysylltiad â’r ymgyrchwyr yn gynharach heddiw a’u bod wedi dweud wrtho fod pedwar llong o lynges Israel wedi eu hamgylchyni.

Dywedodd fod y llong mewn moroedd rhyngwladol Mediteranaidd, tua 40 milltir o arfordir Gaza, pan dorrwyd ei gysylltiad â nhw.