Sandor Kepiro
Mae erlynwyr wedi penderfynu apelio ar ôl methiant achos llys dyn 97 oedd wedi ei gyhuddo o droseddau rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Penderfynodd Llys Budapest ollwng y cyhuddiadau yn erbyn Sandor Kepiro ddoe, wedi iddyn nhw benderfynu nad oedd ganddyn nhw ddigon o dystiolaeth i’w gael yn euog.

Ond heddiw, mae’r erlynydd Zsolt Falvai wedi dweud ei fod yn bwriadu herio penderfyniad y llys drwy apêl.

Bydd yn rhaid i’r erlynydd gyflwyno’r apêl hwnnw erbyn prynhawn ddydd Gwener man pellaf.

Penderfynodd y Barnwr Bela Varga ddoe nad oedd digon o dystiolaeth i gael Sandor Kepiro yn euog o droseddau rhyfel arweiniodd at farwolaeth 36 o bobol, y mwyafrif yn Iddewon a Serbiaid, yn ystod cyrch ar ddinas Novi Sad yn Serbia ym 1942. Roedd Sandor Kepiro yn gapten ar heddlu’r gendarmerie ar y pryd.

Mae awdurdodau Serbia, a Chanolfan Simon Wiesenthal Israel, wedi protestio yn erbyn rhyddhau’r dyn 97 oed.

Ond mae Sandor Kepiro wedi gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn.

Dw i’n ddieuog. Dydw i erioed wedi lladd, na dwyn. Fe wnes i wasanaethu fy ngwlad,” meddai mewn datganiad a ddarllenwyd gan ei seicolegydd.

Ychwanegodd y seicolegydd fod Sandor Kepiro wedi penderfynu dychwelyd i Hwngari o’r Ariannin yn 1996, “gan nad oes bywyd iddo heb Hwngari.”