China
Mae plentyn ifanc a syrthiodd bellter o 10 llawr – a byw, ar ôl cael ei ddal gan berson oedd yn pasio heibio – wedi bod yn canu, yn ôl adroddiadau o China.

Mae’n cael ei weld fel arwydd o obaith yn achos y ferch fach sy’n dal â ffordd bell i fynd er mwyn gwella’n llawn o’r anafiadau i’w phen.

Fe syrthiodd y ferch ddwyflwydd oed, sydd wedi ei galw’n Niu Niu, o ffenest fflat ei rheulu yn ardal Zhejiang, China, ar Orffennaf 2. Fe ddeffrodd o goma 10 niwrnod yn gynharach yr wythnos hon.

Mae ei mam yn dweud fod Niu Niu wedi bod yn canu pedair o ganeuon iddi, a’r gobaith ydi fod ei hymennydd yn dod ato’i hun. Roedd ei mam wedi bod yn canu nifer o ganeuon iddi tra’r oedd y ferch fach yn gorwedd yn anymwybodol yn yr ysbyty.

Mae ochr chwith corff Niu Niu yn dal i fod wedi’i barlysu, meddai meddygon, ond mae yna obaith y bydd hi’n gwneud adferiad llawn.