Y Ty Gwyn
Mae’r Arlywydd Obama wedi apelio ar i wleidyddion yr Unol Daleithiau “wneud rhywbeth mawr” er mwyn arbed y wlad rhag methu â thalu ei dyledion.

Mae’r Ty Gwyn a gwleidyddion ar ddwy ochr y Senedd yn awgrymu cynlluniau newydd i ddatrys y trafferthion sy’n bygwth tanseilio’r economi yno a chael effaith anferth ar draws y byd.

Dim ond ychydig tros bythefnos sydd yna i’r Arlywydd a’r Senedd gytuno ar gynllun i gynyddu hawliau benthyca’r wlad. Fel arall, mae peryg y bydd yn methu â thalu ei dyledion.

Cynllun arall

Ar hyn o bryd, mae’r Gweriniaethwyr yn gwrthod cynllun sydd wedi ei gynnig gan Barack Obama. Er bod hwnnw’n torri triliynau o ddoleri oddi ar wario yn ystod y deng mlynedd nesa’, mae hefyd yn awgrymu codi trethi ac mae’r Gweriniaethwyr yn erbyn hynny.

Ar yr un pryd, mae Gweriniaethwyr a Democratiaid yn y Senedd yn gweithio ar gynllun arall a allai roi’r hawl i’r Arlywydd godi’r trothwy benthyg heb bleidlais seneddol.