Y Cyrnol Gaddafi
 Mae 30 o wledydd wedi penderfynu rhoi “awdurdod cyfreithlon” y wlad yn nwylo gwrthryfelwyr Libya, gan roi mwy o bwysau ar Muammar Gaddafi i ollwng ei afael ar y wlad.

 Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod yn Istanbul rhwng dirprwyon 30 o wledydd sy’ wedi ffurfio Grŵp Cyswllt ar Libya. 

 Cynrychiolwyd gwrthryfelwyr Libya yn y cyfarfod gan Gyngor Cenedlaethol y Pontio.

 “Cytunodd y Grŵp Cyswllt yn unfrydol y dylid cydnabod mai Cyngor Cenedlaethol y Pontio yw awdurdod cyfreithlon Libya,” meddai Franco Frattini, Gweinidog Tramor yr Eidal.

 Dywedodd y byddai cydnabyddiaeth swyddogol yn cael ei gyhoeddi gyda’r ddogfen swyddogol yn ddiweddarach heddiw.

 Statws diplomyddol i’r gwrthryfelwyr

 Bydd cydnabyddiaeth o’r fath yn codi statws diplomyddol y gwrthryfelwyr yn Libya yn aruthrol, ac yn rhoi pwysau mawr ar yr arweinydd presennol Libya, Muammar Gaddafi, i gamu o’r neilltu.

Roedd yr Unol Dalaethau, a nifer o wledydd eraill, eisoes yn ystyried y Cyngor yn gynrychiolwyr cyfreithlon i bobol Libya – ond heb eto’u hystyried yn llywodraeth ar y wlad.

Mae Cyngor Cenedlaethol y Pontio wedi bod yn ceisio cydnabyddiaeth swyddogol ers misoedd.