Sarah Palin
Mae cyn-Lywodreathwr Alaska, Sarah Palin, wedi dweud y bydd hi’n cyhoeddi fis nesaf a fydd hi’n sefyll yn ras Arlywyddol 2012.

Dywedodd y Gweriniaethwr dadleuol ei bod hi’n credu y byddai hi yn fuddugol pe bai’n penderfynu herio’r Arlywydd Barack Obama a gweddill ymgeiswyr y Gweriniaethwyr.

Os nad oedd hi’n sefyll fe fyddai yn cefnogi ymgeisydd oedd â “profiad gweithredol da” nad oedd “mor bleidiol nad oedd yn gallu gwneud beth sy’n gywir”.

Ond ar hyn o bryd doedd hi ddim yn teimlo fod ymgeisydd o’r fath wedi ymuno â’r ornest i herio’r Arlywydd yn yr etholiad ar 6 Tachwedd y flwyddyn nesaf, meddai.

Dywedodd ei bod hi’n ystyried cynnig ei henw ei hun ymlaen “er mwyn gwasanaethu” y wlad.

“Mae gen i synnwyr cyffredin, profiad sy’n dangos fy mod i’n geidwadol yn ariannol ac o blaid y sector breifat, a syniadau a fyddai o fudd i’r wlad.”