Daeth rhan o gyfnod gwenoliaid gofod Nasa i ben heddiw wrth i ofodwyr gerdded yn y gofod y tu allan i un o’r cerbydau am y tro olaf.

Dau o ofodwyr yr Orsaf Ofod Rhyngwladol, Michael Fossum a Ronald Garan, gwblhaodd y gwaith, gan adael i’r gofodwyr eraill symud cargo o’r wennol ofod i’r orsaf.

Dadlwythodd criw’r wennol ofod Atlantis, sydd ar ei thaith olaf i’r gofod, bron i bum tunnell o fwyd a dillad i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol.

Gadawodd Atlantis Canolfan Ofod Kennedy yn Florida ddydd Gwener, yr olaf o’r gwenoliaid ofod i hedfan i’r gofod cyn y byddwn nhw’n ymddeol.

Bydd Atlantis yn dychwelyd i Orsaf Ofod Rhyngwladol Kennedy ar 21 Gorffennaf, gan ddod a chyfnod 30 mlynedd y gwenoliaid gofod i ben.

Bydd yr Orsaf Ofod Rhyngwladol yn parhau i weithredu nes 2020 ond bydd rhaid dibynnu ar Rwsia, Japan, gwledydd Ewrop a chwmnïau masnachol i hedan ofodwyr yr Unol Daleithiau yno.

Heddiw oedd y 160ain tro i ofodwyr gerdded y tu allan i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol er dechrau oes 12 mlynedd a hanner yr orsaf.

Mae’r Tŷ Gwyn yn gobeithio anfon gofodwr i asteroid erbyn 2025, ac i’r Blaned Mawrth degawd yn ddiweddarach.