Arnold Schwarzenegger
Mae cyn-lywodreathwr California, Arnold Schwarzenegger, wedi cyhoeddi y bydd yn dychewlyd i fyd actio.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn y brif ran yn ffilm Lionsgate, Last Stand.

Bydd yn chwarae rhan siryff mewn tref ar y ffin â Mecsico sy’n ceisio cael gafael ar smyglwr cyffuriau drwg-enwog.

Dywedodd Joe Drake, llywydd cwmni Lionsgate Motion Picture Group, y bydd Arnold Schwarzenegger yn dod a’i “swyn arbennig” i’r rhan.

Dyma fydd y tro cyntaf iddo ymddangos yn y brif ran mewn ffilm ers Terminator 3: Rise of the Machines yn 2003.

Ers hynny mae wedi canolbwyntio ar ei yrfa gwleidyddol.

Cyhoeddodd Arnold Schwarzenegger ym mis Mai na fyddai yn dychwelyd i fyd actio am y tro ar ôl iddo ddod i’r amlwg ei fod wedi cael plentyn siawns gydag un o staff ei gartref.

Cyhoeddodd ef a’i wraig, Maria Shriver, eu bod nhw’n bwriadu gwahanu ar ôl i’w anffyddlondeb ddod i’r amlwg.