Mae’n ddiwrnod o alar yn Rwsia heddiw, wrth i’r wlad gofio am y rhai a fu farw wedi i long fordaith suddo yn Afon Volga ddoe.  

Mae deifwyr yn parhau â’u gwaith yn nŵr dwfn y Volga heddiw, yn ceisio dod o hyd i mwy o gyrff y rhai fu farw yn y ddamwain.  

Ar hyn o bryd mae 63 o bobol wedi eu cadarnhau yn farw, ond mae 64 yn dal ar goll, ac mae’r gobaith o ddod o hyd i ragor o oroeswyr yn pylu.

Roedd y llong ddeulawr 55 oed yn cludo 208 o bobol pan suddodd ddydd Sul – roedd y llong yn cludo 75% yn fwy o deithwyr na’r hyn oedd yn cael ei ganiatau gan eu trwydded.

Dydi hi ddim yn glir eto a oedd hyn yn ffactor wrth achosi’r llong i suddo.  

Mae ymchwilwyr yn dweud bod rhai goroeswyr wedi cwyno bod y llong yn gwyro ychydig i’r dde ac yn cael trafferthion injan wrth iddi adael tref Bulgar at ddechrau’r daith 450 milltir i Kazan, i’r dwyrain o Moscow.