Mae adroddiadau bod hyd at 25 o ddynion wedi cael eu lladd yng ngogledd-orllewin Pacistan mewn dau gyrch di-beilot o’r awyr gan America.

Lai na 12 awr ar ôl i 12 o ddynion gael eu lladd mewn ymosodiad neithiwr, cafodd 13 arall eu lladd yn gynnar y bore yma.

Yn y ddau achos, roedd taflegrau wedi cael eu tanio ar dai, a’r dynion yn cael eu hamau o fod yn wrthryfelwyr milwriaethus.

Mae’r ymosodiadau yn dilyn cyhoeddiad gan weinyddiaeth Obama eu bod am atal dros draean o’u cymorth milwrol i Bacistan, oherwydd y straen cynyddol ar y berthynas rhwng y ddwy wlad.  

Ond mae’r ddau ymosodiad dros nos yn awgrymu nad yw’r Tŷ Gwyn yn bwriadu atal eu rhaglen ymosodol – rhaglen sydd wedi creu tensiynnau pellach rhwng y ddwy wlad yn ddiweddar.  

Roedd y tŷ a gafodd ei daro yn gynnar y bore ’ma ym mhentref Dremal yn Ne Waziristan. Mae’r pentref yn agos at y ffin â Gogled Waziristan.  

Ymosodiad neithiwr

Neithiwr, roedd bod hofrennydd dibeilot arall gan yr Unol Dalaethau wedi saethu at dai ym mhentref Gorvak yng Ngogledd Waziristan, gan ladd 12 o ddynion honedig filwriaethus.  

Mae’r pentref yn agos iawn at y ffin ag Afghanistan, ac mae’n aml yn cael ei ddefnyddio gan ddynion milwraethus ar y llwybr ar draws y ddim i Afghansitan.  

Mae amharodrwydd Pacistan i dargedu’r dynion milwriaethus hyn yng Ngogledd Waziristan, sy’n cynnal ymosodiadau ar draws y ffin ar filwyr Nato yn Afghanistan, wedi bod yn ddraenen yn ystlys yr Unol Dalaethau yn ddiweddar.  

Mae Pacistan yn mynnu fod ei milwyr wedi eu gwasgaru’n rhy denau mewn rahnnau eraill o’r wlad i fynd i’r afael â’r sefyllfa yng Ngogledd Waziristan.

Ond mae rhai sylwebwyr yn credu bod y llywodraeth yn amharod i groesi’r llwythau milwriaethus oherwydd yr help y mae’r llywodraeth wedi ei gael ganddyn nhw yn y gorffennol, a’r posibilrwydd y bydd angen eu help eto yn Afghanistan pan fydd milwyr tramor yn gadael.  

Tensiwn yn sgil lladd bin Laden

Yn y cyfamser, mae Obama wedi cynyddu’r ymosodiadau yng Ngogledd Waziristan, yn ogystal â thargedu ardaloedd yn Ne Waziristan.

Mae’r Unol Dalaethau yn gwrthod cydnabod bod rhaglen gudd o’r fath gan y CIA yn digwydd ym Mhacistan, ond mae rhai swyddogion wedi datgelu yn breifat fod yr ymosodiadau wedi llwyddo i ladd unigolion uchel iawn yn y Taliban ac al Qaida.  

Y gred yw bod Pacistan wedi cefnogi’r ymosodiadau hyn gan yr Unol Dalaethau yn y gorffennol, er bod swyddogion y llywodraeth yn eu beirniadu nhw’n gyhoeddus am ymyrryd â sofraniaeth y wlad.

Ond mae’r gefnogaeth honno wedi gostwng yn raddol yn y misoedd diwethaf – yn enwedig ers y cyrch cudd gan yr Unol Dalaethau a laddodd pennaeth al Qaida, Osama Bin Laden, ym Mhacistan, a hynny dan drwyn milwyr y wlad.  

Mae’r berthynas rhwng y ddwy wlad wedi dirywio’n fawr ers hynny, ac fe gyhoeddodd pennaeth staff yr Arlywydd Barack Obama ddydd Sul fod yr Unol Dalaethau wedi penderfynnu torri mwy na thraean – $800 miliwn – o’u cymorth milwrol i Bacistan, nes bod y ddwy wlad yn gallu adfer y berthynas.