Arlywydd America, Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi datgan ei gefnogaeth i drafodaethau rhwng Rwsia a Libya, yn ôl y Tŷ Gwyn.  

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithau wrth Dmitry Medvedev y byddai’n barod i gefnogi trafodaethau â Libya, wedi eu harwain gan Rwsia, mor belled â bod y trafodaethau’n arwain at newid democrataidd, a bod Muammar Gaddafi yn camu o’r neilltu.  

Mae’r arlywydd Medvedev wedi ymuno â’r Gorllewin wrth annog Gaddafi i sefyll i lawr, ac mae llysgenhadon o’r Kremlin eisoes wedi teithio i Libya i gwrdd â chynrychiolwyr o lywodraeth Gaddafi.  

Tra bu Obama a Medvedev yn siarad ddoe, mynegodd Obama ei gydymdeimlad â’r arlywydd wedi i long fordaith suddo mewn afon ger Moscow, gan ladd yn agos at 130 o bobol.  

 Bwlch llydan …  

Yn y cyfamser, mae cenhadon arbennig o’r Cenhedloedd Unedig yn ceisio cael Llywodraeth Libya a’r gwrthryfelwyr i ollwng arfau a chytuno ar newid gwleidyddol.

Maen nhw’n rhybuddio, fodd bynnag, bod y bwlch rhwng y ddwy ochr yn dal yn llydan – ac  maen nhw’n annog trafodaeth uniongyrchol rhwng y ddwy garfan.

Ar ôl siarad gyda Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ddoe, dywedodd Abdelilah Al-Khatib wrth ohebwyr mai un o’r prif faterion i gael eu trafod yw pa gorff sefydliadol a fyddai’n rheoli unrhyw newid wleidyddol.

“Byddai’n rhaid i’r corff fod yn holl-gynhwysol ac yn ystyried cynrychiolwyr o bob grŵp gwleidyddol a chymdeithasol, yn ogystal ag amrywiaeth eang o garfannau, ranbarthau a llwythau,” meddai.

Dywedodd Abdeilah Al-Khatib ei fod wedi trafod y syniadau hyn â phrif weinidog a gweinidog tramor Libya ddydd Sadwrn