Mae o leiaf 40 o blant wedi marw ar ôl i’w bws ysgol fynd i mewn i gamlas yn Bangladesh.

Fe ddigwyddodd y trychineb yn ardal Chittagong tua 130 milltir o’r brifddinas Dhaka.

Mae cyrff 40 o blant wedi cael eu codi o’r gamlas ond ofnir y gall nifer y marwolaethau godi oherwydd gallai rhagor o gyrff fod wedi eu dal y tu mewn i’r cerbyd.

Roedd y disgyblion, rhwng 8 a 12 oed, yn dychwelyd adref o dwrnameint pêl-droed mewn ysgol leol.