Pylu mae’r gobaith am gael hyd i ragor o bobl yn fyw ar ôl i long suddo yn afon Volga yng nghanolbarth Rwsia ddoe.

Cafwyd hyd i naw o gyrff, ond mae dros 90 yn dal ar goll.

Does dim cadarnhad o union nifer y bobl ar fwrdd y llong Bulgaria a suddodd yn rhanbarth Tatarstan, tua 450 o filltiroedd i’r dwyrain o Moscow ddoe. Ond y gred yw fod tua 190 ar  ei bwrdd er na ddylai fod yn cludo mwy  na 120.

Yn ôl adroddiadau gan rai a gafodd eu hachub roedd y llong wedi suddo mewn tua wyth munud ar ôl i don olchi dros y dec.

Cafodd tua 80 o bobl eu hachub, pob un ohonyn nhw’n Rwsiaid, a does dim gwybodaeth a oedd tramorwyr ar fwrdd y llong.