Mae storm llwch anferth wedi disgyn ar Phoenix in Arizona, gan ddallu trigolion y ddinas ac oedi teithiau awyren o’r maes awyr.

Taflodd gwyntoedd cryfion y coed i’r llawr ac achosi i’r trydan ddiffodd i tua 8,000 o gartrefi yn y dyffryn.

Cododd y llwch yn uchel dros nendyrau canol y ddinas, wedi ei sgubo gan y gwynt o’r anialwch i’r de.

Yn ôl sianel deledu KSAZ-TV roedd y cwmwl llwch tua 50 milltir ar draws mewn rhai mannau.

Syrthiodd y llwch ar ganol dinas Phoenix wrth iddi nosi.

Mae gwyntoedd cryfion yn gyffredin yn Arizona rhwng canol mis Mehefin a diwedd mis Medi.