Bradley Manning
Bydd cynhyrchiad nesaf cwmni drama cenedlaethol yn canolbwyntio ar achos milwr a dreuliodd ei arddegau yng Nghymru, ac sydd bellach wedi ei gyhuddo o ddatgelu gwybodaeth gudd i Wikileaks.

Bradley Manning yw’r dyn sydd wedi ysgogi drama newydd y National Theatre Wales – y milwr sydd yn y carchar yn Kansas ar hyn o bryd am ddosbarthu miloedd o e-byst gan lysgenhadaeth yr Unol Dalaethau i Wikileaks.

Y dramodydd Tim Price sydd wedi ymgyrmryd â’r dasg o sgriptio, ac mae e bellach yn treulio cyfnod yn Hwlffordd – cyn gartref y milwr 23 oed – i ddysgu mwy am y dyn a’r dylanwadau arno ar gyfer y ddrama newydd.

Ar hyn o bryd, dim ond teitl sydd i’r ddrama – ‘The Radicalisation of Bradley Manning’ – ond mae syniad cryf wedi gyrru’r dramodydd i Hwlffordd.

“Beth petai Bradley Manning wedi bod yng Nghymru trwy gydol ei oes, beth fydde fe wedi neud?” gofynai.

Dyna’r cwestiwn sy’n sail i’r ddrama hyd yma, yn ôl llefarydd ar ran y National Theatre.

“Mae Tim wedi mynd yno i siarad gyda phobol, a gwneud gwaith ymchwil ar y dyn ei hun.”

Pobol sy’n ei gofio

Fe dreuliodd Bradley Manning peth o’i arddegau yn Hwlffordd – ym milltir sgwâr ei fam, Susan Fox.

Wedi ei eni yn America, yn 13 oed symudodd ef a’i chwaer yno gyda’i fam, wedi iddi ymadael â thad y plant.

Bu’n ddisgybl yn ysgol Tasker Milward yn Hwlffordd am ychydig flynyddoedd, cyn symud yn ôl at ei dad yn Oklahoma wedi iddo sefyll ei arholiadau TGAU.

Y cyfnod ffurfiol hwnnw yn hanes Bradley Manning sydd wedi dal diddordeb Tim Price ar hyn o bryd, ac mae wedi mynd yn ôl i’r ardal i siarad â phobol sy’n ei gofio.

Does dim sgript ar bapur eto, yn ôl y National Theatre Wales, er bod amserlen taith y ddrama eisoes wedi ei bennu ar gyfer Mawrth ac Ebrill 2012.

“Rydyn ni’n gobeithio cael rhyw fath o sgript yn barod erbyn mis Medi,” meddai’r llefarydd.

Mae Tim Price wedi bod ynghlwm wrth nifer o ddramau teledu yn y gorffennol, gan gynnwys Caerdydd, Casualty, Y Pris, Eastenders a Holby City, yn ogystal â Café Cariad ar gyfer Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.