Cyhoeddodd llywodraeth Prydain y bydd yn rhoi mwy o arian i helpu lleddfu’r newyn yn Ethiopia.

Ar ôl y sychder gwaethaf ers deng mlynedd, mae 1.3 miliwn o Ethiopiaid yn wynebu newyn, ac mae disgwyl i’r sefyllfa waethygu dros y tri mis nesaf, sef misoedd sycha’r flwyddyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol Andrew Mitchell y byddai’r arian ychwanegol yn mynd at waith Rhaglen Fwyd y Byd yn y wlad.

“Mae Corn Affrica’n profi sychder enbyd oherwydd methiant y glawogydd,” meddai.

“Mae Prydain yn gweithredu’n gyflym ac yn benderfynol yn Ethopia i rwystro’r argyfwng rhag dod yn drychineb. Fe fyddwn ni’n darparu bwyd hanfodol i helpu 1.3 miliwn o bobl trwy’r tri mis nesaf.”

Lansio apêl

Daw cyhoeddiad y Llywodraeth wrth i’r elusen Cymorth Cristnogol lansio apêl argyfwng dyngarol i helpu pobl dros ardal ehangach yn nwyrain a Chorn Affrica.

Dywed yr elusen fod 10 miliwn o bobl ar drothwy newyn yn sgil y sychder gwaethaf ers 60 mlynedd mewn rhai ardaloedd.

“Mae’r argyfwng wedi bod yn dwysau ers amser, yn enwedig yn Ethiopia a Kenya, ac yn gwaethygu’n gyflym,”  rhybuddiodd Branwen Niclas, cydlynydd cyfathrebu Cymorth Cristnogol a fu fyny’n asesu’r sefyllfa yn ardal Marsabit yng ngogledd Kenya, ger ffin Ethiopia.

“Bum mewn rhai pentrefi oedd ond wedi gweld un diwrnod o law ers Ionawr 2010, a hynny fis Hydref diwethaf. Roedd sgerbydau anifeiliaid ymhobman, a hyd yn oed y camelod yn marw ar eu ffordd i’r ffynnon.

“Mae’r sefyllfa’n hynod fregus, ac os na weithredwn ni nawr gallem fod yn edrych ar un o’r argyngau dyngarol gwaetha mae’r byd wedi ei wled ers talwm iawn.”