Pleidleiswyr yn ciwio y tu allan i orsaf bleidleisio yn Bankok heddiw (AP Photo/Vincent Yu)
Mae disgwyl y bydd plaid cyn-brif weinidog Gwlad Thai yn ennill mwyafrif clir yn etholiad cyffredinol y wlad heddiw.

Mae arolygon yn awgrymu y bydd y blaid Pheu Thai o dan arweiniad Yingluck Shinawatra yn ennill ymhell dros hanner y 500 o seddau seneddol.

Yingluck yw chwaer y cyn-brif weinidog Thaksin Shinawatra a gafodd ei ddisodli gan y fyddin bum mlynedd yn ôl ac sydd bellach mewn alltudiaeth yn Dubai.

Parhau mae’r tyndra a’r rhaniadau yn y wlad ers ymyrraeth y fyddin yn 2006, a’r llynedd fe ddaeth protestiadau yn erbyn y llywodraeth â’r brifddinas Bankok ar ei gliniau.

Gwrthdaro

Er y bydd y pleidleiswyr yn gobeithio y bydd yr etholiad heddiw’n cynnig dechrau newydd i’r wlad, mae llawer yn ofni y gallai arwain at ragor o wrthdaro os na fydd y fyddin yn derbyn y canlyniadau.

Roedd ciwiau hir mewn gorsafoedd pleidleisio ledled y wlad, gyda 170,000 o blismyn yn cynnal trefniadau diogelwch llym.

Pan ddaeth Thaksin i rym yn 2001 fe arweiniodd hynny at rwyg yn y wlad rhwng y tlodion yn yr ardaloedd gwledig a oedd yn ei gefnogi, a’r sefydliad elitaidd a oedd yn ei weld fel bygythiad i’r frenhiniaeth a’r staus quo.