Map (o wefan wikipedia) yn dangos lleoliad Afghanistan
aMae 13 o bobl wedi cael eu lladd gan bom ar ochr ffordd yn ne Afghanistan.

Dywed llefarydd ar ran llywodraeth y wlad i’r ffrwydrad ddigwydd yn ardal Shamulzayi o dalaith Zabul y bore yma.

Dywedodd hefyd fod dau ddyn arfog ar feic modur wedi lladd cynghorydd yn ardal Nahri Sarraj o dalaith Helmand.

Yn y cyfamser, mae cannoedd o bobl wedi bod yn protestio yn y brifddinas Kabul yn erbyn ymosodiadau rocedi sydd wedi lladd tua 36 o bobl gyffredin ar hyd y ffin ddwyreiniol â Phacistan dros yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd byddin Pacistan nad oes unrhyw daflegrau wedi cael eu tanio’r fwriadol ond y gallai rhai fod wedi disgyn yn ddamweiniol yn Afghanistan mewn brwydrau yn erbyn gwrthryfelwyr yn y cyffiniau.