Barack Obama
 Mae Arlywydd America am ddefnyddio cyfrif twitter y Tŷ Gwyn i drafod swyddi a’r economi.

Bydd Barack Obama yn trydar ddechrau fis nesaf, gan ateb cwestiynau ac fe fydd fideo o’i ymateb yn cael ei ddarlledu ar y We hefyd.

Eisoes mae’r Arlywydd wedi derbyn cwestiynau gan y cyhoedd oddi ar wefannau rhyngweithio cymdeithasol fel Facebook yn y gorffennol, ond yn ôl y Tŷ Gwyn dyma ei dro cyntaf yn defnyddio dim ond Twitter.

Yn ôl ymgyrch arlywyddol Barack Obama yr wythnos ddiwethaf, mae’n dechrau defnyddio Twitter yn gyson i drosglwyddo negeseuon.

Fe fydd negeseuon Twitter sy’n cael eu gyrru gan yr Arlywydd gan ddefnyddio ei gyfrif Twitter yn cael eu harwyddo ‘BO’.