Babi newydd ei eni.
Mae ‘baby boom’ wedi cynyddu poblogaeth Gweriniaeth Iwerddon i’w lefel uchaf ers 160 o flynyddoedd, er gwaetha’r ffaith fod llawer wedi gadael y wlad oherwydd y dirwasgiad.

Dengys ystadegau bod 4,58,269 o bobol yn y wlad yn ystod noson y cyfrifiad ar y  10fed o Ebrill  – cynnydd o 341,000 (8.1%) dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Dyw’r ffigyrau heb fod mor uchel ers 1851. Bu cwymp syfrdanol wedi hynny wrth i fwy na miliwn o bobl farw yn y Newyn Mawr. Fe wnaeth dwy filiwn arall adael y wlad yn y blynyddoedd wedyn.

Yn ôl The Central Statistics Office (CSO) bu cynnydd naturiol o 222,800 o bobl rhwng 2001 a 2006.

“Mae hyn yn eithriadol o gryf o’i gymharu â’r sefyllfa’n rhyngwladol,” meddai’r Swyddfa.

Fe ddywedodd Paul Kehoe, Prif Chwip y Llywodraeth, bod y ffigyrau’n giplun o beth fydd, maes o law,  yn ddarlun manwl o Iwerddon yn 2011.

“Fel mae pobl heddiw yn gallu cael gwell dealltwriaeth o Iwerddon yr 20fed Ganrif cynnar drwy edrych ar gyfrifiad 1901 a 1911 ar-lein, dw i’n credu y bydd ein hwyrion â’n gôr wyrion ni yn gallu cael gwell dealltwriaeth o’n hamser, diolch i ganlyniadau cyfrifiad 2011,” meddai.