Yr Aifft ar fap
 Mae’r sefyllfa yn yr Aifft yn fregus, drannoeth y brwydrau rhwng byddinoedd diogelwch a phrotestwyr yn Cairo, bron i bum mis ar ôl gwrthryfel wnaeth ddisodli’r arweinydd Hosni Mubarak.

Fe gafodd mwy na 1,000 o bobl eu hanafu mewn cwffio ddydd Mawrth a ddoe wrth i brotestwyr ddatgan eu hanfodlonrwydd â’r sefyllfa sy’n wynebu llawer o gyn arweinwyr y wlad – sydd wedi’u cyhuddo o lygredd.

Mae’n debyg y bydd y gwrthdrawiadau yn Sgwâr Tahrir – y gwaethaf ers bron i dair wythnos bellach yn arafu ymdrechion yr heddlu i gymryd rheolaeth o strydoedd y ddinas  a mynd i’r afael â throsedd sydd wedi gwaethygu ers i’r ymladd ddechrau ar 25 Ionawr.

Yn ôl Gigi Ibrahim, un o’r protestwyr, roedd byddinoedd diogelwch wedi chwistrellu nwy dagrau ar brotestwyr yr wythnos hon.

“Roedd hi fel 25 Ionawr eto,” meddai. “Mae’r protestwyr yn flin oherwydd nad oes newid wedi bod yn y sefyllfa ac am nad yw’r fyddin wedi gwneud digon” ychwanegodd.

Yn ôl swyddogion diogelwch, mae o leiaf 30 o brotestwyr wedi’u harestio ac yn cael eu holi gan y fyddin.