George Papandreou, Prif Weinidog Gwlad Groeg
Mae Aelodau Seneddol Gwlad Groeg wedi pleidleisio o 155 i 138 o blaid toriadau llym iawn a rhagor o drethi er mwyn ceisio lleihau y diffyg ariannol yno.

Dywedodd y Prif Weinidog George Papandreou cyn y bleidlais fod gan Wlad Groeg “ddewis rhwng y diffyg ariannol neu lewyrch ariannol. Dyma’r unig ffordd i ni gael yr amser i wneud y newidiadau sydd angen i ni eu gwneud”.

“Mae’n hanfodol nad oes yr un teulu yn gorfod byw drwy ganlyniadau chwalfa economaidd lwyr.”

Roedd Aelodau Seneddol wedi cael gwybod fod yn rhaid iddyn nhw ddilysu toriadau €28 biliwn er mwyn cael benthyciad €12 biliwn gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Arian Ryngwladol.

Os nad oedd hynny’n digwydd byddai Gwlad Groeg wedi methdalu erbyn canol mis Gorffennaf.

Ond dyw’r bleidlais heddiw heb ddatrys y broblem – y disgwyl yw y bydd y wlad yn gorfod methdalu cyn bo hir beth bynnag, ac mewn hyd yn oed rhagor o dwll wrth i’w dyled gynyddu.

Daw’r bleidlais ar ail ddiwrnod o brotestio treisgar yn Athens, sydd ynghanol streic gyffredinol 48 awr gan weithwyr sy’n gwrthwynebu’r toriadau.