Senedd Gwlad Groeg
Bydd Senedd Gwlad Groeg yn cymryd un o’r penderfyniadau anoddaf yn ei hanes heddiw – gorfodi toriadau llym ar ddinasyddion gwrthryfelgar ynteu methdalu.

Dyna’r dewis sy’n cael ei gynnig i Aelodau Seneddol gan y Prif Weinidog, George Papandreou.

Rhaid dilysu toriadau €28 biliwn neu ni fydd yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Arian Ryngwladol yn rhyddhau’r benthyciad €12 biliwn nesaf.

Os nad yw hynny’n digwydd bydd Gwlad Groeg yn methdalu ynghanol mis Gorffennaf.

Ond hyd yn oed os yw’r Senedd yn pleidleisio o blaid y toriadau, mae yna bryder y bydd y wlad yn methdalu cyn bo hir beth bynnag ac mewn hyd yn oed mwy o dwll.

‘Dim dewis’

Dechreuodd ail ddiwrnod o brotestio treisgar yn Athens heddiw, sydd ynghanol streic gyffredinol 48 awr gan weithwyr sy’n gwrthwynebu’r toriadau.

Ddoe bu’n rhaid i’r heddlu saethu nwy dagrau at brotestwyr oedd yn taflu cerrig yn y brifddinas. Cafodd o leiaf 37 o heddweision eu hanafu.

Serch hynny mae Comisiynydd Economaidd yr Undeb Ewropeaidd, Olli Rehn, wedi rhybuddio nad oes gan Aelodau Seneddol ddewis ond cefnogi’r mesur.

“Yr unig ffordd i Wlad Groeg osgoi methdalu yn syth ydi os yw’r Senedd yn cefnogi’r rhaglen economaidd,” meddai.

“Mae’r Undeb Ewropeaidd yn barod i helpu Gwlad Groeg. Ond allen ni ddim eu helpu nhw os nad ydyn nhw’n helpu eu hunain.”

Ar ôl cael ei phenodi neithiwr galwodd pennaeth newydd y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Christine Lagarde, ar Wlad Groeg i “ddod at ei gilydd” a chefnogi’r toriadau.

Ddoe dywedodd Llywodraethwr Banc Lloegr, Syr Mervyn King, eu bod nhw wedi bod yn paratoi am y gwaethaf os yw Gwlad Groeg yn penderfynu methdalu.