Sarah Palin
Mae cyn-Lywodreathwr Alaska, Sarah Palin, wedi dweud nad ydi hi wedi penderfynu eto afydd hi’n sefyll yn y ras arlywyddol y flwyddyn nesaf.

Wfftiodd sylw gan ei merch ei bod hi eisoes wedi penderfynu a fydd hi’n mynd amdani.

Siaradodd Sarah Palin â gohebwyr yn nhref Pella yn Iowa, oedd yn dangos y ffilm The Undefeated am y tro cyntaf.

Mae’r ffilm yn ymwneud â’i bywyd gwleidyddol hi ac wedi arwain at ragor o ddyfalu a fydd hi’n ceisio cipio enwebiad y Blaid Weriniaethol yn 2012.

Iowa yw’r dalaith gyntaf fydd yn ethol ymgeisydd y Gweriniaethwyr, er mwyn herio Barack Obama yn yr etholiad ym mis Tachwedd 2012.

Roedd ei merch, Bristol, wedi dweud yn ystod cyfweliad teledu ar Fox News yn gynharach bod ei mam wedi penderfynu a oedd hi’n bwriadu sefyll.

“Ond mae yna rai pethau sy’n cael eu trafod o amgylch bwrdd y gegin sy’n aros wrth fwrdd y gegin,” meddai.

Dywedodd Sarah Palin fod penderfynu a ydi hi am sefyll ai peidio yn benderfyniad “anodd” a bod sylwadau ei merch wedi eu cymryd allan o’u cyd-destun.