Dynes – neu ddyn? – mewn burkah
Mae un o arweinwyr mudiad terfysgol sydd â chysylltiadau â al Qaida wedi ei ddal yn Afghanistan, wedi ei wisgo fel dynes.

Dywedodd Nato ei fod yn gwisgo burka pan gafodd ei ddal.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o achosion o wrthryfelwyr yn cael eu dal wedi eu gwisgo fel menywod, medden nhw.

Ychwanegwyd fod gwisgo burka yn ffordd hawdd o osgoi drwgdybiaeth milwyr a’r heddlu.

Yn ôl llefarydd ar ran y fyddin daethpwyd o hyd i arweinydd Mudiad Mwslimaidd Uzbekistan a dau o’i gyfeillion mewn cyrch gyda’r nos yn ninas Kunduz.

Dyw eu henwau nhw heb eu cyhoeddi.