Muammar Gaddafi
Mae asiantaeth newyddion gwladol Libya yn honni fod ymosodiad gan Nato ar dref yn y wlad wedi lladd 15 o ddinasyddion.

Mae Jana yn dyfynnu un o swyddogion milwrol Muammar Gaddafi gan ddweud fod awyrennau Nato wedi lladd y dinasyddion yn nhref Brega.

Roedd taflegrau wedi taro bwyty a bacws yn y dref sy’n fwyaf enwog am ei burfeydd olew, gan ladd 15 ac anafu 20, meddai.

Mae llywodraeth Gaddafi wedi cyhuddo Nato sawl gwaith o dargedu dinasyddion, ond maen nhw’n gwadu’r honiadau.

Dywedodd y Capten Rob Leese o bencadlys Nato yn Naples eu bod nhw wedi ymosod ar Brega, ond gwadodd fod unrhyw ddinasyddion ymysg y meirw.

“Does yna ddim awgrym fod unrhyw ddinasyddion wedi marw o ganlyniad i’r ymosodiadau.,” meddai.

“Roedd yr adeiladau yn cael eu defnyddio gan filwyr Gaddafi er mwyn ymosod ar ddinasyddion yn ardal Ajdabiya.”