Conrad Black
Mae Conrad Black wedi ei ddedfrydu i 13 mis arall yn y carchar ar ôl i farnwr benderfynu nad oedd wedi treulio digon o amser dan glo am dwyllo buddsoddwyr.

Dedfrydwyd Conrad Black, oedd yn berchen ar sawl papur newydd ar nifer o gyfandiroedd, i 42 mis yn y carchar, ond mae eisoes wedi bod dan glo am 29 mis.

Llewygodd ei wraig Barbara Amiel yn y llys wrth glywed y ddedfryd a bu’n rhaid galw ar feddygon i’w thrin hi.

Roedd Conrad Black wedi siarad â’r barnwr am tua 20 munud cyn cael ei ddedfrydu. Ni wnaeth gyfaddef ei fod yn euog.

“Dydw i erioed wedi gofyn am drugaredd,” meddai. “Ond rydw i’n gofyn am gael osgoi anghyfiawnder.”

Cafodd Conrad Black, 66, ei eni yng Nghanada ond ymwrthod â’i ddinasyddiaeth er mwyn cael bod yn aelod o Dy’r Arglwyddi ym Mhrydain.