Barack Obama
Mae Tŷ’r Cynrychiolwyr yn yr Unol Daleithiau wedi penderfynu gwrthod cynnig a fyddai wedi rhoi sêl bendith i’r ymosodiadau yn Libya.

Roedd y bleidlais yn un symbolaidd ond fe fydd yn achosi chwithdod i’r Arlywydd ac yn newyddion calonogol i unben Libya, Muammar Gaddafi.

Mae Barack Obama wedi dweud nad oes angen caniatâd arno i ymosod ar Libya am nad yw’n rhyfel llawn yn yr un modd ag Irac neu Afghanistan.

Serch hynny, pleidleisiodd Tŷ’r Cynrychiolwyr, sydd wedi ei reoli gan y Gweriniaethwyr, o 295 i 123 yn erbyn rhoi sêl bendith i’r rhyfel.

Ymunodd tua 70 o’r Democratiaid gyda’r Gweriniaethwyr wrth wrthwynebu’r rhyfel.

Dyma’r tro cyntaf ers y rhyfel yn Bosnia yn 1999 y mae’r Tŷ neu’r Gyngres wedi pleidleisio yn erbyn ymosodiad milwrol gan y wlad.

Mae’n annhebygol y bydd y Gyngres, sydd yn nwylo’r Democratiaid, yn pleidleisio yn erbyn y rhyfel yn Libya.