Babi yn bwydo o'r fron (nid y babi fu farw)
Mae babi wedi marw yn yr Unol Daleithiau ar ôl derbyn dos marwol o forffin oedd yn llaeth bron ei mam.

Mae’r fam, Stephanie Greene, 37 oed, wedi ei chyhuddo o ddynladdiad drwy gam-drin plentyn.

Daethpwyd o hyd i Alexis Greene, oedd yn chwe wythnos oed, yn farw yng ngwely ei rhieni ym mis Tachwedd 2010.

Dywedodd yr heddlu yn Columbia, South Carolina, fod archwiliad post-mortem yn dangos fod llawer iawn o forffin yng ngwaed y babi.

Roedd y lladdwr poen wedi mynd i mewn i laeth y fam ar ôl iddi gymryd pils oedd yn cynnwys morffin ers genedigaeth y babi.

Dywedodd yr heddlu ei bod hi wedi cael gafael ar y cyffur yn anghyfreithlon 38 gwaith mewn llai na dwy flynedd.