Yulia Tymoshenko
 Mae’r achos llys yn erbyn cyn-Brif Weinidog Yr Wcráin wedi dechrau, tra mae gwledydd y Gorllewin yn cwestiynu’r penderfyniad i’w erlyn. 

Roedd Yulia Tymoshenko yn ffigwr allweddol yn y protestiadau yn 2004 yn erbyn canlyniad yr etholiad a gafodd ei alw’n Chwyldro Oren. 

Erbyn hyn mae hi’n un o brif wleidyddion yr wrthblaid ac mae wedi cael ei chyhuddo o gamddefnyddio pŵer wrth arwyddo cytundeb gyda llywodraeth Rwsia i brynu nwyon naturiol am brisiau oedd yn rhy uchel. 

Mae’r gwleidydd yn gwadu’r cyhuddiadau, gan ddweud eu bod yn rhan o gynllwyn gan Arlywydd y wlad, Viktor Yanukovych, i’w rhwystro rhag cystadlu yn yr etholiadau seneddol ac arlywyddol. 

Mae’r Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd wedi condemnio’r ymchwiliadau yn erbyn Tymoshenko a nifer eraill o’i cyd-wleidyddion. 

 Ar ddechrau’r achos fe wrthododd Yulia Tymoshenko ateb cwestiynau’r barnwr gan ddweud ei fod yn “pyped i swyddfa arlywyddol.”