Purfa olew (Walter Siegmund CCA 3.0)
Mae pris olew wedi disgyn 5% heddiw ar ôl i’r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol gyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu rhyddhau 60 miliwn o farilau o olew o’u casgliad wrth gefn.

Dywedodd yr asiantaeth eu bod nhw’n ymateb i alw mawr ers i allforio olew o Libya gael eu hatal gan yr anghydfod yno.

Bydd yr Asiantaeth yn rhyddhau dwy filiwn o farilau wrth gefn bob dydd dros y 30 diwrnod nesaf.

Bydd hanner yr olew yn dod o gronfa wrth gefn yn yr Unol Daleithiau, sydd â 727 miliwn o farilau mewn storfeydd dan ddaear ar hyd arfordir y Gwlff.

Dywedodd yr Asiantaeth y byddai’r barilau yn helpu i ysgafnhau’r baich o golli 132 miliwn o farilau o olew crai o safon uchel sydd yn Libya.

“Er bod ansicrwydd mawr, mae arbenigwyr yn cytuno na fydd olew Libya ar gael nes diwedd 2011 o leiaf,” meddai’r asiantaeth.

Daw cyhoeddiad yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol yn sgil awgrymiadau fod pris uchel olew yn peryglu’r adferiad economaidd.

Mewn datganiad dywedodd 28 aelod yr asiantaeth fod olew mor gostus ei fod yn bygwth “tanseilio adferiad bregus yr economi ryngwladol”.

Mae arbenigwyr yn dweud fod penderfyniad yr Asiantaeth yn debygol o arwain at ostyngiad mewn pris olew yn y tymor byr.