Car Saab
Mae perchnogion cwmni ceir Swedaidd Saab wedi dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i dalu cyflogau eu gweithwyr.

Roedd y perchnogion Swedish Automobile wedi rhoi ffatri Saab yn Trollhattan, de-orllewin Sweden, ar werth yn y gobaith o adfywio’r cwmni a brynwyd gan General Motors y llynedd.

Ond ar ôl misoedd o broblemau wrth daflu cyflenwyr cyhoeddodd Saab fod y sefyllfa ariannol mor wael nad oedden nhw’n mynd i allu talu 3,700 o weithwyr.

Mynnodd llefarydd ar ran Saab, Eric Gee, nad oedd y cwmni yn mynd i fethdalu.

“Rydyn ni’n dweud nad oes y nawdd gennym ni i dalu cyflogau, ond rydyn ni’n gweithio ddydd a nos er mwyn datrys y broblem,” meddai.

“Rydyn ni’n cymryd yn ganiataol y bydd yna fodd i ddatrys y broblem.”

Rhybuddiodd Swedish Automobile eu bod nhw’n trafod â sawl cwmni arall yn y gobaith o ddatrys y problemau, ond nad oedd yna “unrhyw sicrwydd y bydd y trafodaethau yn llwyddiannus”.