Rhian Yoshikawa
Wrth i Lywodraeth San Steffan roi sêl bendith i adeiladu ail orsaf niwclear ar Ynys Môn, mae rhai o bobol Japan yn protestio yn erbyn y dechnoleg.

Mae’n dri mis ers y daeargryn a’r tsunami laddodd o leiaf 23,000 o bobol yn Japan, ond mae’r wlad yn dal i ddod i delerau â beth ddigwyddodd.

Dyna farn Rhian Yoshikawa, Cymraes sydd wedi byw ar arfordir gorllewinol Japan ers dros ugain mlynedd.

Ac yn sgil y pryderon am ddiogelwch orsaf Fukushima gafodd ei ddifrodi gan y trychineb, mae protestwyr wedi bod yn galw am gefnu ar bŵer niwclear.

Neithiwr tarodd daeargryn 6.7 ar y raddfa Richter arall y gogledd-ddwyrain gan arwain at rybudd tsunami arall.

“Mae bywyd pobol Japan wedi ei rannau’n ddwy… bywyd cyn y daeargryn a bywyd ar ôl y daeargryn!” meddai Rhian Yoshikawa, sydd o Langefni yn wreiddiol ond bellach yn byw tua dwy awr i’r gorllewin o’r brifddinas Tokyo.

“Wrth gyfarfod ffrindiau am y tro cyntaf ers i’r peth ddigwydd, y cwestiwn cyntaf yw ‘Sut oedd y daeargryn? Lle oeddet ti pan ddigwyddodd o?’ ac yn y blaen. Mae gan bawb ei stori!”

‘Normalrwydd’

Er bod bywyd yn ei thref glan mor wedi dychwelyd i ryw fath o normalrwydd bellach, mae’n pryderu y gallai’r un peth ddigwydd eto.

“Ar ôl byw drwy rywbeth fel hyn, mae pryder yng nghefn fy meddwl o hyd.

“Beth petai’r  un peth yn digwydd eto? Yr unig obaith yw bod y llywodraeth yn dysgu gwersi er mwyn osgoi trychineb tebyg yn y dyfodol.”

‘Colli hyder’

Dywedodd fod y gwirionedd ynglŷn â’r argyfwng yng ngorsaf niwclear Fukushima wedi dechrau dod i’r amlwg dros y misoedd ers yr argyfwng gwreiddiol.

“I ddechrau roedd pawb yn meddwl na fyddai wedi bod yn bosib rhagweld maint y tsunami a chryfder y daeargryn.”

Ond roedd deimlad erbyn hyn y dylai’r cwmni fod wedi rhagweld beth ddigwyddodd a bod nifer o’r ffeithiau wedi eu dal yn ôl, meddai.
“Mae’r cyhoedd wedi colli llawer iawn o ffydd yn Tepco a hefyd yn y llywodraeth,” meddai.

“Mae’r llywodraeth yn araf deg iawn wrth ddatrys yr holl broblemau oherwydd cwffio gwirion rhwng y pleidiau gwleidyddol.

“Dydyn nhw ddim yn fodlon cydweithio ac mae pethau wedi mynd yn flêr. Mae pobol Japan wedi cael llond bol ac yn dechrau protestio.”

Gwrthdystiadau yn Tokyo

Dywedodd bod yna “nifer wedi bod yn ymgyrchu yn Tokyo ac o gwmpas y wlad wythnos diwethaf yn erbyn ynni niwclear” ond mai prin yw’r sylw yn y wasg amdano.

“Beth sy’n braf ei weld am y gwrthdystiadau hyn yw bod pobol ifanc y wlad wedi deffro o’r diwedd ac yn dechrau gwthio am newid,” meddai.

“Rydw i’n gobeithio yn arw y caiff hyn effaith ar bolisi’r llywodraeth. Maen nhw’n ystyried ffyrdd o gynhyrchu ynni glan, ond unwaith eto araf deg yw’r trafod.”

Fe ddywedodd bod “tai dros dro” yn cael eu hadeiladu yn yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gwaethaf  gan y tsunami.

Ond mae’r tai “ymhell o’r dref” ac mae “llawer yn cwyno nad ydi hi’n hawdd byw yno”.

Llygredd a’r economi

Dywedodd fod bwyd a’r aer yn cael ei brofi’n aml rhag ofn fod ymbelydredd wedi gadael ei ôl arnynt”.

“Mae’r ymbelydredd yn uchel yn ardal Fukushima a dyw’r  ysgolion ddim yn caniatáu i’r plant chwarae tu allan.

“Y broblem fwyaf yw bod yr ymbelydredd yn aros yn y pridd, ac felly mae parciau ac ysgolion yn mynd i orfod tynnu’r hen bridd oddi yno a gosod pridd newydd.”

Roedd yn sicr fod “economi’r wlad yn dioddef ar hyn o bryd” ond dywedodd y byddai’n rhaid “disgwyl i weld am ba mor hir bydd hyn yn parhau”.