Tokyo
Tarodd daeargryn 6.7 ar y raddfa Richter gogledd-ddwyrain Japan neithiwr gan arwain at rybudd tsunami.
Digwyddodd y daeargryn yn yr un ardal y tarodd y daeargryn anferth 9 ar y raddfa Richter ar 11 Mawrth.
Cafodd o leiaf 23,000 o bobol eu lladd yn dilyn y trychineb hwnnw, a ddinistriodd cannoedd o gartrefi, swyddfeydd a ffatrïoedd.
Cyhoeddodd Asiantaeth Meteoroleg Japan rybudd tsunami yn hwyr neithiwr ond fe’i canslwyd tu awr yn ddiweddarach.
Dywedodd Canolfan Argyfwng Tsunami y Môr Tawel nad oedden nhw’n disgwyl gweld tsunami dinistriol.
Doedd yna ddim adroddiadau ynglŷn ag unrhyw ddifrod nac anafiadau ar ôl y ddaeargryn darodd y wlad am 6.50am amser Japan (10.50pm amser Cymru).
Digwyddodd y daeargryn ger ynys Honshu, tua 325 milltir i’r gogledd o Tokyo. Roedd y daeargryn 19.9 milltir dan ddaear.