Barack Obama
Fe fydd yr Arlywydd Barack Obama yn cyhoeddi yfory ei fod yn bwriadu tynnu tua 10,000 o filwyr y wlad yn ôl o Afghanistan yn ystod y chwe mis nesaf.

Mewn araith o’r Tŷ Gwyn yn ystod yr oriau brig fe fydd Barack Obama yn cyhoeddi y bydd 5,000 o filwyr yn mynd adref yn yr haf a 5,000 arall yn dilyn yn y gaeaf.

Daeth yr Arlywydd i benderfyniad ôl sawl dewis posib gan y Cadfridog David Petraeus, pennaeth byddinoedd yr Unol Daleithiau a Nato yn y wlad.

Mae Barack Obama hefyd yn ystyried amserlen ar gyfer dod ag 20,000 o filwyr ychwanegol yn ôl o faes y gad.

Penderfynodd eu gyrru nhw yno ym mis Rhagfyr 2009 gan feddwl y byddai cynnydd sylweddol yn nifer y milwyr yn ennill y rhyfel yno’n gynt.

Mae cyfanswm o tua 100,000 o filwyr yr Unol Daleithiau yn y wlad, tair gwaith yn fwy na phan urddwyd Barack Obama yn arlywydd.

Y nod yw y bydd y gweddill yn gadael erbyn 2014, gan roi cyfle i fyddin Afghanistan reoli eu diogelwch eu hunain. Byddai rhai milwyr yn aros yn y wlad er mwyn cefnogi a hyfforddi’r milwyr brodorol.

Mae o leiaf 1,522 o filwyr yr Unol Daleithiau wedi marw yn Afghanistan ers dechrau’r rhyfel yn 2001.