Terfysg ym Melffast
Mae ffotograffydd wedi ei anafu yn dilyn saethu ar ôl ail noson o derfysg ar strydoedd Gogledd Iwerddon, neithiwr.

Clywyd drylliau yn saethu tair gwaith yn ystod y terfysg yn ardal Short Strand dwyrain Belffast, sydd wedi gweld terfysgoedd difrifol dros y blynyddoedd diwethaf.

Saethwyd un o ffotograffwyr asiantaeth newydd y Press Association yn ei goes ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Royal Victoria. Mae mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod nhw wedi gorfod ymdopi â “anhrefn difrifol” yn ardaloedd Stryd Newtownards Isaf Dwyrain Belffast.

Cafodd briciau a photeli eu taflu yn ôl ac ymlaen rhwng cenedlaetholwyr ac unoliaethwyr yno.

Cadarnhaodd fod cannon ddŵr wedi ei defnyddio a dywedodd y dylai’r cyfryngau gadw draw er mwyn eu diogelwch eu hunain.

Dydd Llun cafodd dau berson eu saethu yn eu coesau yn ystod y brwydro. Death hynny yn dilyn ymosodiadau gan unoliaethwyr ar gartrefi yn ardal Gatholig Short Strand.

Mae’r heddlu wedi beio’r ymosodiadau ar Fyddin Wirfoddol Ulster.

Mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson, a’r Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness, wedi beirniadu’r terfysg.

“Ar hyn o bryd mae nifer o bobol yn gweithio yn galed er mwyn adeiladu dyfodol gwell i Ogledd Iwerddon, felly mae’n siomedig iawn gweld trais fel hyn ar y strydoedd,” meddai Peter Robinson.

Beiodd Martin McGuinness y trais ar “leiafrif bychan” oedd eisiau “eu llusgo nhw yn ôl i’r gorffennol.”