Mae dinas fwyaf talaith Oregon yn yr Unol Daleithiau wedi gwastraffu wyth miliwn galwyn o ddŵr yfed – ar ôl i ddyn biso yn y gronfa.

Mae awdurdodau dinas Portland wedi amddiffyn y penderfyniad gan ddweud nad ydyn nhw eisiau i bobol y ddinas yfed dŵr sydd â phiso ynddo.

Ond dywedodd arbenigwyr iechyd y ddinas fod wrin wedi ei ddad-heintio ac na fyddai hanner peint o biso mewn miliynau o alwyni o ddŵr yn gwneud niwed i unrhyw un.

Mae rhai o bobol y ddinas wedi beirniadu’r awdurdodau gan ddweud eu bod nhw wedi gor-ymateb, yn enwedig gan fod anifeiliaid yn ysgarthu, piso a marw yn y gronfa ddŵr.

“Does gan fwy na biliwn o bobol o amgylch y byd ddim dŵr glan, a dyma ni’n gwastraffu bron i wyth miliwn galwyn oherwydd bod ambell i dwpsyn yn meddwl y bydd eu dŵr tap nhw’n troi’n felyn,” meddai un sylw ar wefan newyddion The Oregonian.

Dywedodd pennaeth bwrdd dŵr y ddinas, David Shaff, fod y cronfeydd dŵr yn cael eu gwagio dwywaith bob blwyddyn i’w glanhau.

Roedden nhw wedi dod o hyd i gyrff anifeiliaid, deunydd adeiladu, gweddillion tân gwyllt, a bagiau plastig y mae pobol yn eu defnyddio er mwyn codi baw ci, meddai.

Ond dywedodd ei fod wedi penderfynu gwagio’r gronfa ddŵr ar ôl i ddyn gael ei ddal ar gamera cylch cyfyng yn piso ynddi.

“Dydw i ddim am orfod wynebu’r cannoedd o bobol fydd yn cwyno gan ddweud fy mod i’n rhoi dŵr iddyn nhw sydd â phi pi ynddo,” meddai.

Dywedodd Josh Seater, 21, ei fod wedi meddwl mai canolfan carthffosiaeth oedd y gronfa ddŵr cyn gwneud ei fusnes ynddi.

“Roeddwn i’n gwybod na ddylwn i fod wedi ei wneud o,” meddai.