Llwch y llosgfynydd yn Chile
Cafodd teithiau awyren i mewn ac allan o Awstralia eu canslo heddiw wrth i gwmwl o lwch o losgfynydd yn Chile groesi’r wlad.

Dywedodd cwmni Qantas Awstralia ei fod wedi canslo pob ehediad i mewn ac allan o ddinas ddeheuol Adelaide, Sydney, a’r brifddinas Canberra heddiw.

Cafodd teithiau i Ewrop drwy Bangkok eu symud ac fe gafodd chwe thaith i Seland Newydd eu canslo. Dywedodd cwmni hedfan ar bris isel Tiger eu bod nhw hefyd wedi canslo pob taith am y tro.

Dyma’r ail dro i hyn ddigwydd o fewn wythnos. Bu’n rhaid canslo cannoedd o deithiau i mewn ac allan o Awstralia a Seland Newydd yr wythnos diwethaf diolch i losgfynydd Cordón Caulle yn yr Andes.

Dywedodd llywodraeth Chile ddydd Sul fod y llosgfynydd, a ffrwydrodd ar 4 Mehefin, wedi dechrau gostegu.

Mae eisoes wedi atal cwmnïau teithio rhag hedfan yn yr Ariannin ac ar draws dde America.