Sohana Jawed
Mae merch naw oed wedi llwyddo i ddianc terfysgwyr ym Mhacistan oedd yn gobeithio ei throi yn “fom dynol”.

Dywedodd Sohana Jawed fod y terfysgwyr wedi ei herwgipio ar y ffordd i’r ysgol yn Peshawar, a gorfodi iddi wisgo siaced oedd yn cynnwys bom.

Llwyddodd i ddianc wrth i’w herwgipwyr ei gyrru i gyfeiriad targed y bomio.

Dywedodd Sohana Jawed ei hanes yn ystod cynhadledd newyddion wedi ei drefnu gan yr heddlu.

Mae terfysgwyr ym Mhacistan yn aml yn defnyddio hogiau ifanc er mwyn ymosod ar dargedau, ond prin iawn y maen nhw wedi defnyddio merched ifanc.

Adrodd yr hanes

Dywedodd Sohana Jawed ei bod hi ar ei ffordd i’r ysgol ddydd Sadwrn pan gafodd ei chipio gan ddwy ddynes a’i gorfodi i mewn i gar oedd yn cario dau ddyn.

Stwffiodd un o’i herwgipwyr hances poced i mewn i’w cheg a phan ddechreuodd grio cafodd bisgedi i’w fwyta oedd yn cynnwys rhywbeth wnaeth iddi golli ymwybyddiaeth.

“Rhoddodd y merched a’r dynion siaced drwm arna’i a fy ngorfodi i mewn i gar eto,” meddai Sohana Jawed.

Roedd y siaced yn cynnwys bron i 20 pwys o ffrwydron ac roedd wedi ei gynllunio i ffrwydro o bell, meddai pennaeth yr heddlu, Salim Marwat.

“Mae’n debygol mai’r nod oedd ei ffrwydro o bell gan mai plentyn oedd yn ei wisgo,” meddai.

Wrth gyrraedd y man lle’r oedd yr ymosodiad i fod i ddigwydd, llwyddodd i ddianc o afael y terfysgwyr a rhoi gwybod i’r milwyr yno beth yr oedd hi’n ei wisgo.

Erbyn i’r milwyr sylwi beth oedd ganddi roedd y terfysgwyr wedi ffoi, meddai.