Banc Gwlad Groeg
Fe ddylai Gwlad Groeg gyfaddef nad yw’n gallu talu ei ddyledion a gadael ardal yr ewro, meddai Maer Llundain, Boris Johnson, heddiw.

Wrth ysgrifennu yn ei golofn ym mhapur newydd y Daily Telegraph, dywedodd Boris Johnson fod yr ewro wedi “gwaethygu” yr argyfwng ariannol.

Rhybuddiodd y Llywodraeth nad oedd yn deg fod disgwyl i Brydain gyfrannu unrhyw arian at geisio achub economi’r wlad unwaith eto.

Mae Boris Johnson ymysg nifer cynyddol o wleidyddion Ceidwadol sy’n credu y dylai Gwlad Groeg fynd ei ffordd ei hun.

“Ers blynyddoedd mae llywodraethau ardal yr ewro wedi bod yn dweud y byddai yn wallgof ac yn amhosib i wlad adael,” meddai.

“Ond mae yn anochel erbyn hyn ac fe ddylai ddigwydd cyn gynted â phosib.”

Awgrymodd fod ymddygiad afradlon Gwlad Groeg wedi ei annog gan yr ewro.

“Mae’r ewro wedi annog rhai gwledydd i ymddwyn mewn modd yr un mor ddi-hid â’r banciau eu hunain,” meddai.

“Ni fydd yna hyder yn economi Ewrop tra bod yr ansicrwydd yma yn parhau.”

Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, yn gynharach nad oedd disgwyl i Brydain gyfrannu tuag at geisio achub Gwlad Groeg unwaith eto.