Logo y Cenhedloedd Unedig
Am y tro cynta’ erioed, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cefnogi a chadarnhau hawliau pobol hoyw, lesbiaidd a thrawsrywiol. Maen nhw wedi pasio cynnig sy’n cael ei alw yn un hanesyddol gan yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill sydd wedi eu beirniadu’n llym gan rai gwledydd Mwslimaidd a gwledydd yn Affrica.

Roedd y cynnig wedi’i eirio yn ofalus iawn, yn mynegi “pryderon dwys” ynglyn â’r cam-drin sy’n digwydd i bobol o rywioldeb arbennig. Roedd yn galw am adroddiad byd-eang ar y rhagfarn yn erbyn hoywon.

Mae ymgyrchwyr hawliau dynol wedi galw’r datblygiad yn symudiad pwysig ar fater sydd wedi rhannu’r byd am ddegawdau, ac maen nhw wedi canmol yr Arlywydd Obama am wthio hawliau pobol hoyw gartre’ a thramor.

Yn dilyn trafodaethau llawn tensiwn, fe bleidleisiodd Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig o blaid y cynnig a gyflwynwyd gan Dde Affrica. Roedd y bleidlais o blaid 23-19.

Roedd cefnogwyr y cynnig yn cynnwys yr Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd, Brasil a gwledydd eraill America Ladin.

Roedd y gwledydd a oedd y gwrthwynebu yn cynnwys Rwsia, Sawdi Arabia, Nigeria a Phacistan. Fe ataliodd China, Burkina Faso a Zambia eu pleidleisiau nhw. Wnaeth Kyrgyzstan ddim pleidleisio, a doedd gan Libya ddim hawl pleidleisio.