George Papandreou
Mae Prif Weinidog Groeg, George Papandreous, wedi galw am refferendwm ar “newidiadau i’r sustem boliticaidd” yn y wlad, ynghyd ag ar ei chyfansoddiad.

Wrth agor trafodaeth dridiau ar newid seneddol a fydd yn cyrraedd penlladw mewn pleidlais o hyder yn hwyr ddyd Mawrth, mae Mr Papandreou wedi beio gladwriaeth fawr gwlad Groeg am ddod â’r wlad ar ei gliniau. Mae wedi addo newidiadau mawr.

Mae hefyd yn dweud y bydd yr adolygiad ar y cyfansoddiad yn ei gwneud hi’n haws i erlyn swyddogion llywodraeth sy’n torri rheolau.

Dywedodd Mr Papandreou fod Groeg yn trafod pecyn cymorth ariannol a allai olygu 110biliwn ewro o help, sef yr un faint â’r pecyn dderbyniodd y wlad ym Mai 2010.