Llain Gaza
Mae swyddogion ym Mhalesteina yn dweud fod cyfarfod pwysig rhwng arweinydd dau fudiadau gwrthwynebus Fatah a Hamas wedi cael ei ganslo.

Roedd disgwyl i’r cyfarfod ddydd Mawrth nesa’ rhwng Arlywydd Palesteina, Mahmoud Abbas, ac arweinydd Hamas, Khaleed Mashaal ddod i ddealltwriaeth ynglyn â phwy fydd Prif Weinidog nesa’r wlad wedi ffurfio llywodraeth cyd-ddealltwriaeth.

Ond mae swyddogion o’r ddwy ochr yn cydnabod fod yna anghytuno dros y mater hwn. Mae’r cyfarfod, medden nhw, wedi ei ohirio, a does dim dyddiad newydd wedi ei gyhoeddi.

Mae’r penderfyniad yn gam yn ôl i’r cytundeb unedig y mis diwetha’ rhwng Hamas a Fatah. Bryd hynny, fe gytunodd y ddwy ochr i ddod ag anghytuno cyhoeddus pedair blynedd i ben. Mae’r anghytuno hwnnw wedi gadael Palesteina mewn gwagle gwleidyddol.